Bydd plac yn cael ei ddadorchuddio ar wal Rhosaeron, Llandysilio, ar bnawn Sadwrn Medi 21 i ddynodi mai dyma gartref teuluol Waldo Williams. Gwnaed y plac gan y llythrennwr adnabyddus o Landybie, Ieuan Rees a chaiff ei ddadorchuddio gan David Williams, un o neiaint Waldo. Trefnwyd y dadorchuddio gan Gymdeithas Waldo gyda chydweithrediad Dewi John, perchennog Rhosaeron.

Hefyd yn ystod yr achlysur lansir Taflen Taith Waldo wedi'i pharatoi gan Eirwyn George a Damian Walford Davies. Bwriedir cynnal picnic ar Weun Parc y Blawd gerllaw wedyn trwy haelioni Vernon Beynon, perchennog y parc. Pe bai'r tywydd yn anffafriol bydd pawb yn crynhoi yn Festri Blaenconin.

Yr wythnos ganlynol ar nos Wener, Medi'r 28, cynhelir Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo a hynny yn Ysgol Botwnnog, Pen Llyn lle bu Waldo'n athro am gyfnod. Dadorchuddir plac yno hefyd i gofnodi'r cyfnod a dreuliwyd gan Waldo a'i wraig, Linda, yn yr ardal. Y darlithydd gwadd fydd y dramodydd Gareth Miles a'i destun fydd 'Waldo Williams - Dyn Digri'.